



























|
Hybu'r Gymraeg yn y Gymuned |
|
Menter Iaith Maelor |


|
Beth yw Menter Iaith Maelor? |
|
· Menter gymunedol i godi ymwybyddiaeth o’r Gymraeg a datblygu’r defnydd o’r iaith yn Sir Wrecsam. |
|
· Menter sy’n gweithredu drwy’r sir i gyd, nid yn nhref Wrecsam yn unig. |
|
· Cefnogir y Fenter gan Fwrdd yr Iaith Gymraeg a gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam. |
|
· Mae’n dangos y manteision addysgol, personol a chymdeithasol o fod yn ddwyieithog. |
|
Dwy iaith - dwy waith y dewis |
|
· Mae dros 28,000 o bobl Sir Wrecsam yn siarad Cymraeg neu â rhyw fedr ynddi. Ac mae llawer ohonynt dan 19 oed. |
|
· Mae un o bob deg o ddisgyblion ysgol y sir yn derbyn addysg Gymraeg ac mae gweddill disgyblion uwchradd y sir yn dysgu’r Gymraeg fel ail iaith. |
|
· Mae llawer o sefydliadau yn gweithredu drwy gyfrwng y Gymraeg a nod y Fenter fydd i gydlynu’r ddarpariaeth. |
|
|
|
Beth mae Menter Iaith Maelor yn ei wneud? |
|
· Trefnu gweithgareddau sydd yn rhoi cyfle i rai o bob oed ddefnyddio’r Gymraeg yn gymdeithasol. |
|
· Dod â mudiadau at ei gilydd i godi proffil yr iaith Gymraeg. |
|
· Annog cyrff cyhoeddus a busnesau i ddefnyddio’r Gymraeg, a chymell Cymry Cymraeg a dysgwyr i ddefnyddio’r gwasanaeth. |
|
· Gweithredu fel canolfan wybodaeth am weithgareddau trwy gyfrwng y Gymraeg yn ardal Wrecsam. |



|
DIWEDDARWYD Y SAFLE DDIWETHAF |